Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 29, 2011

Coed yn eu Blodau

Cyn gynted ag y mae’r gwanwyn yn dechrau mae fel petai hanner drosodd. Mae blodau’r coed a’r llwyni’n dod yn eu trefn, pob un yn gwybod ei le ar yr amserlen dymhorol. Mae blodau’r eirinen fach frodorol eisoes wedi darfod, ond yn awr mae gyda ni rhain:

piesgu ffoto:cathasturias

Dyma’r piesco, neu piesgu ar lafar, coeden frodorol arall sy’n dwyn eirin gwlanog bach melyn a melys. Cawsom ni doriadau gan gymydog y llynedd, felly mae gobaith cael ein ffrwyth ein hunain erbyn y flwyddyn nesaf, ond mae hon yn tyfu ar ochr yr heol.

Ac wrth gwrs mae drain yn tyfu ymhobman:

Cymysgedd o dywydd sydd o’n blaenau’r wythnos hon mae’n debyg: digonedd o law ac ambell i ddiwrnod twym (23C): yr union beth sydd ei eisau ar yr ardd.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: