Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 30, 2011

Diferion Distrywiol

Esgus i gyhoeddi llun arall o’r cerfluniau canol-oesol o amgylch drws yr hen eglwys, Santa Eulalia, yn Abamia ger Cangas de Onis.

Yma yn ôl y chwedl y cafodd Pelayo, arglwydd ac yna frenin yr Astwres a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn y Mwriaid ar ddechrau’r 8fed ganrif, ei gladdu; nes i’w gorff gael ei symud i eglwys fawr Covadonga. Mae haneswyr eraill yn gwrthod y ddamcaniaeth yn gyfangwbl, ond mae lle Pelayo yn chwedloniaeth Asturias yn rhywbeth tebyg i Arthur, felly dyw trigolion ardal Corao ddim am anghofio ei fod wedi perthyn iddyn nhw unwaith.

Beth sy’n eu corddi nhw’n fwyfwy y dyddiau hyn yw’r gwaith o adnewyddu a wnaethpwyd ar yr eglwys, oedd wedi mynd yn adfeilion. Gwariodd llywodraeth Asturias hanner miliwn o euros ar y cynllun, a gafodd ei feirniadu o’r dechrau un. Doedd pobl ddim yn hoffi’r wedd newydd o gwbl, ond yn awr mae gyda nhw gŵyn mwy sylfaenol: mae’r gwteri newydd a roddwyd o amgylch y tô yn gadael y dŵr i fewn. Mae’n diferu i lawr y welydd ac yn distrywio’r arwynebedd.

Mae etholiadau o fewn deufis: bydd yn ddiddorol gweld a wneith unrhyw blaid geisio chwarae ‘cerdyn Pelayo’.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: