Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 31, 2011

‘Nabod yr Enwau

Dwi erioed wedi rhoi cofnod cyfan i wefan arall o’r blaen. Ond inni sy’n dechrau dysgu am fyd natur ac yn ceisio mynd o gwmpas gyda’n llygaid ar agor a’n camera yn y poced, does dim byd gwell na iSpot i gael cymorth pan fyddwn yn gweld rhywbeth newydd neu aneglur.

Ann Jones sy’n blogio fan hyn a ddanfonodd y cyfeiriad imi’r diwrnod o’r blaen pan oeddwn yn pendroni beth oedd yr ‘wyau pinc’ a welsom yn y goedwig. Dodais i’r llun ar iSpot, ac o fewn ychydig oriau daeth sawl ateb (wel, yr un ateb gan sawl person): nid wyau pinc o gwbl, ond peli paent! Siom wrth gwrs, a ninnau’n meddwl ein bod wedi cael rhywbeth diddorol. Felly dodais i lun arall, a’r tro yma daeth yr ateb o fewn munudau:

Sarcoscypha coccinea ffoto:cathasturias

Y scarlet elf cup yw hwn yn Saesneg, ac mae e i gael yng Nghymru a llawer i le yng ngogledd Ewrop yn ogystal ag Asturias. Dim ond un oedd yno, a rhwyun neu rywbeth wedi damsiel arno fe, achos fe ddylai fod yn edrych yn fwy tebyg i gwpan. Roedd yn tyfu ar domen o ddail crin, dail castanwydd a derw, nepell o afonig.

Hyd y gwn i does na ddim gwefan tebyg yn Sbaen (rwy’n dal i chwilio): oes na un fel ‘na yn Gymraeg?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: