Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 1, 2011

Tanwydd y Tywydd

Mae’r busnes cynhyrchu trydan yn Sbaen wedi buddsoddi miliynau mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy, o’r hen gronfeydd dŵr â thyrbeiniau i’r melinau gwynt a phaneli haul diweddaraf. Ac mae’r parciau gwynt a pharciau haul enfawr wedi bod yn llwyddiannus: yn ystod mis Mawrth (mis mwyaf gwyntog y flwyddyn fel arfer) fe ddarpariwyd dros 20% o holl drydan Sbaen gan y gwynt. Ac yn ystod 2010, roedd bron i dreian o drydan Sbaen yn dod o’r dosbarth adnewyddadwy (ffigyrau’r DU: 6.6%).

Wrth i’r farchnad ddatblygu, mae llywodraeth Sbaen wedi rhoi diwedd ar y cymorthdal a dderbyniwyd gan y cwmniau ynni haul – cymorthdal oedd yn eithaf hael er mwyn hybu tŵf y diwydiant. Wrth wneud hynny maen nhw wrth gwrs yn arbed arian ond hefyd yn gwneud pethau’n decach; mae cwmniau ‘traddodiadol’ (ynni nwy, trydan o lo ac yn y blaen) wedi bod yn cwyno ers amser maith. Yn awr mae’r cwmniau haul yn bygwth mynd â’r llywodraeth i’r llys am beidio talu rhagor!

Mae Sbaen hyd yn oed yn gallu allforio trydan i Ffrainc, am y tro cyntaf yn ei hanes, pan fydd gormod yn cael ei gynhyrchu gan y melinau gwynt. Ac mae’n gallu mewnforio llai o nwy. Ar y llaw arall, yn ôl ffigyrau mis Mawrth daeth 19% o’r trydan o orsafoedd niwcliar, a 12% o’r rhai sy’n llosgi glo. Mae ‘na resymau gwleidyddol-cymdeithasol dros gadw’r gorsafoedd glo i fynd, ond mae’n debyg y bydd pobl yn edrych yn fanwl ar yr rhai niwcliar yn sgîl y trychineb yn Siapan.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: