Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 2, 2011

Newid wrth y Llyw

Un peth sy’n amlwg: ar ôl yr etholiadau Sbeinig y flwyddyn nesaf fe fydd prif weinidog newydd yma. (Llywydd Cyngor y Gweinidogion, i roi’r enw iawn ar y swydd.) Mae José Luis Rodríguez Zapatero wedi cyhoeddi na fydd yn arwain ei blaid, y PSOE, yn yr ymgyrch etholiadol sydd i ddod. Mae wedi bod yno ers 2004, yr etholiad hwnnw ddaeth yn syth ar ôl y bomio erchyll yng ngorsafoedd trên Madrid, pan laddwyd bron i 200 o bobl. Y PP, y blaid geidwadol. oedd mewn grym ar y pryd, ac fe ruthrodd ei harweinwyr i roi’r bai ar ETA. Ond roedd y bobl yn gwybod gwell, ac fe droion nhw ar y PP ac ethol y blaid sosialaidd am y tro cyntaf mewn degawdau.

Dau dymor mae e wedi bod yno, felly, ac yn debyg i Gordon Brown efallai, y dechrau yn dda a’r diwedd, yn sgîl yr argyfwng ariannol, yn anodd ac yn cael ei bortreadu fel methiant. Fe wnaeth e lawer i hybu cydraddoldeb cymdeithasol; mae gan bobl sydd ag anableddau hawliau newydd ym myd gwaith, mae gan bobl hoyw’r hawl i briodi.

Pan ddaeth y cwymp ariannol, a chwymp diwydiant codi a gwerthu tai chwyddedig Sbaen, a’r diweithdra nôl yn 20%, fe geisiodd wneud ei orau. Ond roedd y ‘marchnadoedd’ yn mynnu newidiadau cymdeithasol, newidiadau a welwyd ar y chwith fel diogelu’r bancwyr drwy gosbi’r gweithwyr a’r diwaith. Petai wedi ymddiswyddo bryd hynny, byddem ni wedi sôn am arwr y chwith; yn lle hynny mae llawer un yn teimlo nad ydym ni wir yn ei adnabod o gwbl.

(ystyr llythrennol Zapatero, gyda llaw, yw crydd.)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: