Mae rhagolygon y tywydd wedi bod yn llai dibynadwy nag arfer yr wythnos hon: yn addo glaw, rhywbeth y mae ar yr ardd ei angen yn ddirfawr erbyn hyn. Ond na, mae wedi bod yn heulog braf, ac yn dwym, gyda’r gwynt o’r de.
Ar y traeth mae newidiadau et oeleni. Bob gaeaf mae’r môr yn chwarae gyda’r tywod ar raddfa mega. Eleni mae’r traeth yn uwch o dipyn wrth waelod y llwybr.
Ac mae’r afon wedi glynu at yr ochr chwith ym mhennod olaf ei thaith tua’r môr. Y llynedd roedd y pwll wrth y graig (canol y llun) yn ddwfn iawn, a’r afon wedyn yn croesi’r traeth o un ochr i’r llall ac yn mynd yn igam-ogam tua’r heli.
Ac wrth edrych tua’r mynydd, mae’r tywod wedi cael ei sgubo oddi ar y creigiau gan adael rhaeadrau bach. Yn bert iawn, ond fydda’i ddim yn mynd i nofio eto – amser Pasg, efallai.
Gadael Ymateb