Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 6, 2011

O’r Ardd – ddechrau Ebrill

Eleni bydd o mwy o dai gwydr gyda ni. Does dim un ohonyn nhw wedi ei wneud o wydr: plastig yw’r pedwar. A dim ond dau sydd yn haeddu’r enw tŷ: mae’r ddau arall yn fwy tebyg i lochesi tair ochr lle fydd y tomatos yn tyfu mâs o’r gwynt a’r lleithder.

Ar y chwith, y tŷ tomatos, ar y dde, hen dŷ gwydr gyda gorchudd newydd: roedd yr hen un wedi cael ei chwythu’n rhacs gan y gwynt er gwaetha’r ffaith ei fod yn cael ei diogelu gan y wal a’r gwrych (coed llawryf) y tu ôl. Yn hwn byddwn yn tyfu rhai o’r pupurod, ychydig o domatos ‘cherry’ sy’n dod eu hunain yno, a rhai o’r perlysiau tyner fel y brenhinllys. Mae’n derbyn dŵr drwy bibau bychain yr holl ffordd o’r tanc dŵr glaw ar dop yr ardd.

A dyma’r un newydd sbon. Mae hwn yn y broses o gael ei gysylltu â’r cyflenwad dŵr, ond bydd ei angen e. Rydym ni wedi tyfu pethau fel mafon, tato, a phŷs yn y llecyn yma, ond mae’n sychu’n glou iawn felly ni chawsom fawr o lwyddiant. Dyna pam mae’r drefn wedi newid eleni.

Nodyn ar berenjenas (aubergines – gair Cymraeg unrhyw un?): y llynedd fe blannom ni rhai yn y tŷ gwydr, rhai o dan ‘cloche’ a rhai yn y tir agored. O ran eu dail, yr y drefn yna yr oedden nhw. Ond o ran ffrwyth – y rhai aeth yn syth i’r pridd agored yn llawer gwell. Efallai bod angen y gwynt i’w peillio?

 

 

Advertisements

Responses

  1. Mi gefais I yr un brofiad llynedd hefo aubergines yn y ty gwydr. Tybed os diffyg gwennyn ydi’r achos?

    • Synnen i damaid – sy’n golygu (inni) tyfu aubergines yn yr awyr agored neu (i unrhyw un ) mynd o gwmpas gyda brws paent tenau unwaith bod y blodau wedi ymddangos. Rwyf i wedi gwneud hynny gyda’r bricyll (sy’n blodeuo ym mis Chwefror) ac fe weithiodd yn iawn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: