Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 7, 2011

Gweld y Gwir

Mae undebau newyddiadurwyr a sianeli teledu preifat Sbaen wedi dod at ei gilydd i geisio newid deddf cyfathrebu etholiadol newydd fydd, medden nhw, yn golygu bod newyddiadurwyr yn gwylio’r eiliadau yn hytrach na gwrando ar y geiriau, ac yn ymosodiad ar hawliau’r sianeli preifat i fod yn annibynnol.

Mae’r ddeddf yn ymdebygu i reolau sawl gwlad arall, ond mae’n mynd yn bellach. Mae popeth yn cael ei seilio ar y canran o’r bleidlais a gafwyd gan bob plaid (a mae ‘na ugeiniau ohonyn nhw ledled Sbaen): rhaid i bob rhaglen newyddion gynnwys deunydd ar bob plaid yn ôl eu cyfran.  Byddai’r cymalau sy’n ymwneud â dadlau arweinwyr yn gwneud y dadlau hynny yn fwy o ford gron na wyneb yn wyneb oherwydd yr hawl fyddai gan bleidiau bach i gymryd rhan (efallai am amser byr iawn!)

Ac mae’r holl beth yn dod yn sgîl y tueddiad gan y pleidiau mawr i beidio â gadael cameras y gwahanol sianeli i fewn i’w cyfarfodydd mawr o gwbl, dim ond dosbarthu eu lluniau eu hunain wedyn. Lluniau lle bydd y neuadd yn edrych yn llawn, y bobl yn hapus a neb byth yn dweud gair o’i le.

Rwy’n siŵr y byddai’n bosib gweithredu’r ddeddf petai synnwyr cyffredin yn cael ei ddefnyddio, ond yn ôl yr hyn rwyf i wedi bod yn darllen yn ddiweddar does dim llawer o hwnnw wedi ymddangos eto. Mae’r holl beth yn rhy fanwl, ac wrth gwrs dyw e ddim yn ystyried beth fydd gwerth newyddiadurol yr hyn y mae’r pleidiau’n dweud na gwneud ar y diwrnod.

Mae’r Sbaenwyr byth a hefyd yn cwyno am eu biwrocratiaeth: y tro yma maen nhw yn llygad eu lle.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: