Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 8, 2011

Nodiadau ar yr €

Wel, mae Portiwgal yn mynd i gael ‘cymorth’ hyd yn oed yn erbyn ewyllys y senedd a’r werin bobl. Mae’r farchnad wedi penderfynu hynny a holl bwysau’r rhai sydd am weld llwyddiant tymor-hir yr € yn cael eu rhoi y tu ôl i’r fenter. Bydd Sbaen yn cyfrannu rhyw €5bn – ddim yn ffôl i wlad sydd, medd yr un un farchnad, y nesaf yn y rhes i gwympo.

Mae Sbaen wedi mynd lan fymryn yng ngolwg yr asiantiaethau yn ystod y dyddiau diwethaf, ond mae diweithdra yn dal dros 20% a’r ifainc yn dioddef yn fwy na neb. Bydd hynny unwaith eto yn arwain at ddiboblogi a diffyg datblygiad yn yr ardaloedd tlotaf, fel Asturias. Mae’r farchnad tai wedi dechrau symud eto yn Madrid ac yn Catalunya, ond yma mae gormod o dai haf wedi cael eu codi. Hyd yn oed pan fydd y gwaethaf wedi pasio, nid tŷ haf fydd ar ben rhestr gwario’r rhan fwyaf o deuluoedd.

Ac mae llawer o’r tai hynny’n aros yn wag, hyd yn oed y rhai mewn pentrefi poblogaidd gyda digon o drigolion parhaol, am nad yw’r adeiladwyr yn torri’u prisiau. Maen nhw wedi benthyg yr arian i wneud y gwaith ac yn gorfod ei ennill e nôl.

Ond tra bod hyn i gyd yn digwydd, mae’r gymdeithas hyd yma’n aros yn gryf, o leiaf yn yr ardal fach hon, a phobl yn helpu’u gilydd. Does neb yn disgwyl y bydd y ‘dyddiau da’ yn dychwelyd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: