Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 9, 2011

Pigion Diwrnod o Haul

Gwneud dim heddiw achos y tywydd, sy’n braf fel yr haf. Ond dyma rai pigion o’r papurau Astwraidd a Sbeinig.

Yr economi, eto: bydd 25 o fanciau Sbaen yn gorfod gwynebu profion cryfder eleni – mwy nag yng ngweddill gwledydd Ewrop. Ond mae’r Gronfa Arian Aml-wladol yn hapus ar gyflwr economaidd y wlad a gweinidog yr economi yn hapus y byddan nhw i gyd yn pasio.

Madrid yn erbyn Asturias: mae cynrychiolydd llywodraeth Madrid yn Asturias wedi dweud wrth gyngor Ribadesella taw nhw, a nhw yn unig, sy’n gyfrifol am gywiro tua hanner km o ffens haearn a symud y broc môr (mawr – hyd at goed cyfan) sydd wedi eu gadael yno yn ystod y gaeaf. Mae pobl Ribadesella yn ateb y byddai’r holl beth wedi cael ei wneud yn barod petai yn Llanes, y cyngor nesaf, a chartref y cynrychiolydd.

Menyw yn erbyn y gyfundrefn: Mae menyw sydd wedi bod yn blocio’r heol y tu fas i’w thŷ wedi cael addewid y bydd ei chartref yn cael ei gynnwys yn y rhwydwaith carthfffosiaeth newydd yn y pentref. Ond mae’n dweud y gwneith hi aros yno nes bod y gwaith yn dechrau.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: