Mae’n wythnos ers i Manu Brabo (Manuel Varela ar ddogfenni swyddogol) a’i dri chyd-weithiwr gael eu cipio yn Libia. Mae dau’r o’r tri arall yn dod o’r Unol Daleithiau, y llall o Dde Affrig. Brodor o Gijon, Asturias, yw Manu, ac ar ddechrau gêm Sporting Gijon (ie, y tîm wnaeth maeddu Real Madrid) yn erbyn Osasuna heddiw fe gafwyd gwrthdystiad gan y ffotograffwyr oedd yno i dynnu lluniau’r chwarae. Pob un yn dodi ei gamera ar lawr ac yn dangos ei lun.
Fel arfer wrth gwrs y lluniau a dynnwyd ganddo fyddai’n siarad drosto. Bachan 30 oed, sydd wedi treulio’r 5 mlynedd diwethaf fel ffotograffydd ar ei liwt ei hunan yn rhai o lefydd mwyaf anodd y byd. O slymiau Buenos Aires i byllau copr Bolivia, o Balesteina i Kosovo, Haiti ac yn awr Libia. Roedd yn ddigon adnabyddus yma yn Asturias: ychydig fisoedd yn ôl bu arddangosfa o’i waith yn Haiti yn mynd o gwmpas y trefi.
Mae’r perygl sy’n wynebu newyddiadurwyr mewn rhyfel, ac yn arbennig felly ffotograffwyr, sy’n gorfod mynd lle mae’r ymladd i gael eu lluniau, yn rhywbeth sydd yn cael ei dderbyn. Y cwbl fedr rhywun ei wneud yw ceisio gweithio mewn ffordd ddiogel. Ac mewn rhyfel cartref lle mae’r ddwy ochr yn gwisgo’n debyg a’r ymladd yn symud o gwmpas heb lawer o siâp na strategaeth, mae hynny’n anodd. Yn anos fyth i rywun sy’n gweithio ar ei ben ei hun, heb fod yn rhan o griw a heb gwmni mawr y tu ôl iddo; dyna pam roedd y pedwar yn teithio gyda’i gilydd.
Rhyddid yn awr i Manu Brabo, ei gyd-deithwyr, a phawb sy’n cael eu dal yn anghyfreithlon am geisio dod â’r newyddion a’r lluniau inni.
Gadael Ymateb