Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 11, 2011

‘Biutiful’ go iawn

Mae lleian o Guatemala yn wynebu 22 o flynyddoedd o garchar os bydd y llys yn ei chael yn euog o helpu merched o’i gwlad i ddod i weithio i Asturias heb bapurau – ac o godi digon ao arian arnyn nhw am wneud hynny. Dywed yr erlyniaeth ei bod hi wedi trefnu i ddwsin o ferched ddod i ardal Ribadesella, lle roedd y rhan fwyaf yn gweini mewn tai preifat: dim ond ychydig yn well na chaethweision, roedden nhw’n gorfod bod ar gael 24 awr y dydd.

Roedd y lleian, a dau frawd iddi, yn codi dros €3500 am drefnu’r teithiau, ac yn esbonio i’r merched sut y dylen nhw ddod â dillad gwyliau yn unig, a dweud eu bod nhw am ymweld â’r safle crefyddol enwog, y basilica yn Covadonga. Ar gyrraedd, roedd y merched yn gorfod rhoi eu pasports iddi, a dim ond yn cael gweld nhw eto wrth fynd i’r banc (gyda hi) i ddanfon arian i’w teuluoedd yn Guatemala.

Mae pobl ar hyd oes oesoedd wedi ceisio bywyd gwell mewn gwlad arall; yr hyn sy’n wahanol heddiw yw taw dim ond y cyfoethog a’r clyfar sy’n cael gwneud hynny’n gyfreithlon. Roedd y morynion yn Ribadesella yn gallu hala arian gwerthfawr at eu teuluoedd, ond roedden nhw’n colli’r hawl i gael bywyd llawn. Ac yn amlwg, am nad oedd gyda nhw bapurau, nid oedd yn bosib i’w sefyllfa wella dros y blynyddoedd, iddyn nhw weithio’u ffordd lan. Hawdd dweud o fan hyn, ond mae angen gwella pethau yn Ewrop ac yn y gwledydd sy’n danfon eu hieuenctid dros y môr: datblygu economi Guatemala neu lle bynnag, a hefyd helpu pobl i ddod i Ewrop i astudio.

Neu fe fydd llawer mwy yn dibennu fel trueiniaid y ffilm Biutiful.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: