Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 12, 2011

Diweddaru Cofnodion Diweddar

Mae llywodraeth Sbaen wedi danfon diplomat i Libia i geisio rhyddid y ffotograffydd Manu Brabo, sydd wedi diflannu ers dros wythnos. Roedd yngweithio yno ar ei liwt ei hun i’r asiantiaeth Efe, a chredir iddo gael ei gipio gan swyddogion Gaddafi. Gydag ef mae dau Americanwr ac un o Dde’r Affrig. Y bore ‘ma fe aeth ei rieni i gwrdd ag uchel swyddog yn y Weinyddiaeth Dramor yn Madrid.

Mae criw’r llong bysgota Canguro, a ddifethwyd gan y stormydd fis yn ôl wrth geisio ddod i fewn i borthladd Ribadesella, wedi prynu llong newydd. Daw’r Azkena o Plentzia yng Ngwlad y Basg, ac yn wahanol i’r Canguro mae wedi ei gwneud o ffeibr yn hytrach na phren.

Mae’n debyg y bydd banc cynilion Asturias, Cajastur, yn berchen ar dwy ran o dair o’r banc newydd fydd yn cael ei ffurfio gyda dau fanc arall oedd mewn trafferthion. Ddoe bu’r rheolwyr yn esbonio eu cynllun newydd o flaen arbengiwyr Banc Sbaen. Maen nhw’n gobeithio gwerthu 20% o gyfranddaliadau’r banc newydd i fuddsoddwyr o’r tu fâs.

Glaw heddiw, ac edrych ymlaen at wyliau’r Pasg a thywydd gwell, gobeithio. Mae’r egin-blanhigion yn aros yn fychan iawn!

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: