Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 13, 2011

Byd y Cyfoethocaf Oll

‘The rich are different’, meddai un o gymeriadau nofel Scott Fitzgerald, the Great Gatsby. A weithiau mae nodyn bach mewn papur newydd yn arwain at amgyffred yn union pa mor wahanol y maen nhw. Sôn heddiw bod dau o fuddsoddwyr mawr cwmni bysus National Express wedi dod at eil gilydd i fynnu mwy o’u pobl eu hun ar y bwrdd. Neb cweit yn siŵr a yw’n wir neu beidio, ond, mae un yn gwmni o’r Unol Daleithiau, a’r llall yn deulu o Asturias.

Teulu’r Cosmen, o Luarca yng ngorllewin y dalaith. Teulu sydd wedi bod yn rhedeg bysus ers dros ganrif: ymysg eu teithiau hir cyntaf, Luarca-Oviedo, 93 km mewn 15 awr, mewn cerbyd oedd yn cael ei dynnu gan chwe cheffyl. (Heddiw: 1 awr 15.) Wastod yn edrych tua’r dyfodol, fe brynon nhw gerbydau stêm, ac yna ym 1918 eu bws modur cyntaf. Automóviles Luarca S.A., erbyn heddiw Alsa, enw a welir ar fysus ar draws Sbaen. Maen nhw wedi bod yn cynnig teithiau tramor ers y 60au (pan oedd llawer o bobl Asturias wedi mynd i Ffrainc a Gwlad Belg i gael gwaith), ac yn bwerus yn Tseina ers 20 mlynedd.

Maen nhw wedi ceisio ennill rheolaeth National Express o’r blaen, ond maen nhw’n deulu dywedwst a sdim dal beth yw eu strategaeth y tro yma.  Wrth ymchwilio dipyn ar y we ffaelais i gael unrhyw beth fel ‘newyddion personol’ amdanyn nhw. Ond efallai bod hyn yn ddiddorol: teulu bach ydyn nhw i gyd. Mae llai na 250 o bobl yn Sbaen yn dwyn y steil ‘Cosmen’.   Mae eu hanner yn byw yn Madrid, a chwarter yn Asturias.

A hefyd hyn: yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, mae pobl gyfoethog y byd, a’r Cosmen yn eu plith, y rhai sydd â dros $100 miliwn, yn dal i roi eu harian mewn tir a thai. Dros dreian ohono fe. Rhaid cyrraedd y $1miliwn gyntaf, wrth gwrs.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: