Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 14, 2011

Bwyd, eto

Mae pobl Asturias yn siarad am fwyd drwy’r amser – hynny yw, pan na fyddan nhw’n ei baratoi neu’i fwyta. Mae gan bawb ei farn ar sut i fagu ŵyn, sut i dyfu ffa, sut i gadw pysgod mewn cyffaith, beth i’w ychwanegu at y cig i wneud selsig, popeth. Ac os byddwch yn eistedd i lawr mewn bwyty yn fuan ar ôl grŵp o bobl leol, mae’n werth clustfeinio wrth eu bod yn croesholi’r gweinydd am gynnwys y fwydlen – safo chi rhag gorfod gwneud yr un peth wedyn.

Ddoe roedd un o gogyddion gorau’r dalaith yn y rownd derfynol i fod yn gynrychiolydd Sbaen yn y Bocuse d’Or yn Lyon. Fe wnaeth yn dda iawn: roedd y clod am ei gig oen yn uchel, ‘yn sefyll uwchlaw’r gweddill’, meddai’r barnwyr. Ond yn y cwrs cyn hynny y cafodd e broblem. Camgymeriad rhwydd.  Danfonodd e 13 plât o eog tuag at y stafell fwyta. Roedd 14 ar y rheithgor. Roedd e mâs ar ei ben.

Ond mae cynrychiolydd arall o Asturias wedi ennill pencampwriaeth caws glas Ewrop, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Santander, prifddinas Cantabria. Mewn gwirionedd cynhyrchwyr caws o’r Picos de Europa gymerodd saith o’r deg lle yn y prif ddosbarth. A’r gorau oedd caws o bentref Tielve, o fferm gaws el Duje. Enghraifft o gaws Cabrales oedd e, caws sy’n cael ei gynhyrchu gan grefftwyr a’i heneiddio mewn ogofau yn y mynyddoedd. El Duje yw enw’r afon sy’n rhuthro heibio’r drws.  Mae caws Cabrales, a sawl un arall o’r ardal, yn cael eu cydnabod a’u diogelu gan yr Undeb Ewropeaidd; ond yn bwysicach fyth, maen nhw wedi ennill cefnogwyr ymhell o lethrau’r Picos drwy gystadleuthau fel hon.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: