Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 18, 2011

Y Ras Etholiadol

Ychydig dros fis i fynd tan yr etholiadau cymunedol a threfol. Mwy o ddewis nag erioed yn Asturias, oherwydd yr hollt yn yr adain dde sydd wedi arwain at ddwy blaid ddigon swmpus, y PP a’r Foro, yr ail yn fwy cenedlaetholgar Astwraidd na’r gyntaf. Dadlau di-ddiwedd yng Ngwlad y Basg ynglŷn â pha bleidiau sy’n cael ymddangos ar y papur pleidleisio, a pha rai y dylid eu diddymu oherwydd agosatrwydd eu cysylltiadau (honedig) ag ETA.

Ac yn Galicia? Stori anhygoel yn El Pais heddiw. Papur newydd y chwith yn beirniadu llywodraeth (Xunta) adain-dde Galicia am wario dros €1.3 miliwn ar dalu bapurau taleithiol am gynnwys straeon oedd yn ei dangos mewn ffordd ffafriol. Tair gweinyddiaeth yn benodol: y Môr, Gwaith, a’r Economi, a’r cwbl wedi ei gofnodi mewn cytundebau swyddogol. Nid ‘gwybodaeth i’r cyhoedd’ ar ffurf hysbysebu oedd hyn, medd El Pais, ond straeon oedd yn ymddangos ar dudalennau newyddion ac yn dangos un ochr y geiniog yn unig.

Ymateb y Xunta? Eu bod nhw’n talu’r papurau fel ffordd o’u cadw nhw i fynd, gan weld cymaint yr oedd eu henillion hysbysebu wedi disgyn yn sgîl yr argyfwng economaidd. Esgus gwan iawn: os hynny, pam na fydden nhw’n ddigon syml yn prynu hysbysebion os taw dyna beth oedd eu hangen?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: