Wedi bod ar wibdaith i Gymru i weld y teulu, felly lluniau o fôr arall sydd gyda fi heddiw – neu afon yn hytrach.
Roedd Afon Menai ar drai, yn eithafol o fas, pan aethom am dro y noswaith o’r blaen.
Hawdd oedd dychmygu’r gwartheg yn nofio draw o Sir Fôn ar eu ffordd i’r farchnad.
Ond heddiw byddwn yn hwylio nôl i Sbaen i weld sut mae’r ardd wedi bihafio yn ystod wythnos o wyliau. Mae rhagolygon y tywydd yn weddol, ond does dim dal unwaith y byddwn ni mâs ar y môr mawr, yn croesi Bae Vizcaya.
Gadael Ymateb