Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 21, 2011

Yr Ardd ar ôl Wythnos i Ffwrdd

Cyrraedd yma neithiwr i ffindo bod yr ardd wedi mynd yn wyllt mewn wythnos fer! Ar ôl sbel o heulwen a sychder, daeth y glaw. Roedd y ffa llydan (wel, y rhesi cyntaf, gafodd eu hau nôl ym mis Tachwedd), wedi cwympo i’r llawr o dan bwysau’r ffa oedd heb eu casglu, a’r borfa ymhobman wedi tyfu troedfedd.

Felly er cymaint y galw i fynd i’r traeth heddiw, rhaid oedd clirio’r ffa, a gweld faint oedd ar ôl y gellid eu bwyta fel llysieuyn glas, a faint y gellid eu sychu neu eu gwneud yn pate. Wedyn lladd gwair (dyw ‘torri lawnt’ ddim cweit yn ddigon rywsut), ac yna chwynnu.

Rhaid dweud bod y perlysiau wedi mwynhau’r glaw: torrais i llond y rhidyll o deim (gyda’i flodau) ac oregano a’u dodi’n uchel yn y gegin i gael sychu. Y gobaith mawr wrth gwrs yw y bydd y planhigion yn tyfu eto’n fuan iawn. Mae’r toriadau taragon a gymrais i wedi dechrau tyfu, felly bydd rheiny’n dod mâs o’r tŷ gwydr yfory i ddod i arfer â’r byd mawr.

Ac mae’r tomenni compost wedi dyblu eu maint heddiw: yr hen helogan a dwy neu dair whilberaid o ddant y llew wedi cael mynd yno yn ogystal â’r ffa.

I’r traeth yfory? Gobeithio’n wir.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: