Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 22, 2011

Colli Cyfaill

I’r traeth? Na, heddiw chwaith. Am sawl reswm – yr un arwynebol yw bod y glaw wedi dychwelyd (**hunan-gymeradwyaeth am wneud yr holl waith yn yr ardd ddoe**).

Ond mae cymydog agos wedi marw, yr ail o fewn mis, ac felly’r prynhawn yma byddwn yn mynd i’r fynwent unwaith eto. Does na ddim offeren heddiw, oherwydd taw Gwener y Groglith yw hi, ond ie, bydd Toni’n cael ei gladdu. Un o’r dynion mwyaf cyfeillgar y gallech chi ei adnabod, ond wedi bod yn wael ers amser.

Dyn a adawodd yr ysgol yn 12 oed i fynd i weithio mewn ffatri, ac yna ddwy flynedd wedyn i Frwsel lle ddysgodd grefft y trydanwr a gwneud yn dda iawn. Ond bu’n rhaid iddo rhoi’r gorau iddi ar ôl damwain difrifol pan oedd yn ehangu tŷ ei fam. Roedd yn tyfu coed o doriadau o ganghennau ac yn gwneud seidr blasus. Bydd colled mawr ar ei ôl.

Ac wrth imi hel meddyliau trist, galwodd cymydog arall i’n gwahodd i ginio. Bywyd, fel arfer, yn mynd yn ei flaen.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: