Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 23, 2011

Dewis dy Flodyn

Yn yr ardd drwy’r dydd eto heddiw; eto fyth yn chwynnu a thorri’n ôl ar y planhigion sy’n mynnu tyfu lle fydda’i wedi penderfynu cael rhywbeth arall (gwell, yn fy marn i). Chwynnu gwely’r mafon, er enghraifft: maen nhw’n hoffi cael lle glân, ond mae’r borfa a llygaid y dydd yn gweld y pridd noeth fel her ac yn rasio yn erbyn ei gilydd i’w orchuddio’n gyfangwbl.

A’r creigiau wedyn: dannedd y llew yn llwyddo i flodeuo (bŵ!) mewn tyllau sy’n rhy fach i dy fys bach. Ond wrth dynnu rhai o’r bwlis mawr fel y rheiny, mae rhywun yn cael amser i edrych ar y planhigion brodorol llai, ond yn fwy atyniadol.

clychau'r tylwyth teg ffoto:cathasturias

Clychau’r tylwyth teg, erinus alpinus: fan hyn ar yr arfordir mae hwn yn tyfu ar furiau (yn yr achos yma, mur o graig naturiol) gogleddol, llaith a thawel. Ond pan awn i’r mynydd fe welwn ni fe mewn llefydd mwy heulog, er yn llaith, fel pan fydd dŵr yn disgyn yn araf i lawr y graig. Mae i weld yn lledu o fewn yr ardd wrth imi tynnu mâs rhai o’r planhigion mwy.

tormaen ffoto:cathasturias

Un o’r tormeini yw hwn, a heddiw yw’r tro cyntaf imi ei weld yn yr ardd. O edrych yn y llyfr rwy’n amau taw’r tormaen serennog, saxifraga stellaris, yw e, ond byddwn yn falch o glywed beth mae pobl eraill yn meddwl.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: