Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 25, 2011

Blodau Lliwgar

Ddoe wnes i roi ychydig o hanes y llysiau, heddiw tro’r blodau yw hi. Mae’r rhan fwyaf o’r blodau yn yr ardd wedi bod yno ers cyn inni brynu’r lle, ac yn dal i fynd.

Mae’r fuchsias wrth eu bodd yma gyda chymaint o law a lleithder, ac yn edrych yn dda yn erbyn planhigion mwy fel yr hortensias ac yn erbyn y garreg galch lwytwen.

Yn yr ardd fach wrth gefn y tŷ mae lili’r Pasg yn dychwelyd flwyddyn ar ôl ei gilydd. Cala yw ei henw yma,  zantedeschia aethiopica i’r botanegwyr. Dwi ddim yn gwybod pa fath o rosyn yw’r un coch – bron yr un lliw â gwin Bordeaux. Does dim lot o arogl arni ond rwy’n dwli ar y lliw. A daeth y penigan yn rhodd gan gymdoges, toriad bach sydd wedi tyfu’n dda ac yn llenwi’i le.

Yfory bydd gofyn imi ddechrau gweithio gyda’r perlysiau unwaith eto, rhai yn y tŷ gwydr ac eraill yn y tir agored.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: