Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 26, 2011

Perlysiau Newydd

Planhigion perlysiau newydd eleni, hynny yw. Mewn ffordd arall, enghreifftiau newydd o’r un hen berlysiau y bues i’n tyfu llynedd.

Ces i eitha hwyl ar rannu’r taragon: roedd yn anodd cael darnau gyda gwraidd a dail, ond fe  lwyddodd y toriadau glas i ffurfio gwreiddiau da. Nid felly’r ddau wreiddyn, ond rwyf i wedi dodi nhw yn ochr yr hen domen gompost i gael gweld a fydd unrhyw beth yn dod ohonynt.


Mae’r tri yma  – y brenhinllys, sierfyl, a choriander, wedi dod o hadau ac yn y tŷ gwydr y maen nhw ar hyn o bryd. A dweud y gwir rwy’n credu taw fanna y byddan nhw, achos mae’n haws os byddwn ni’n mynd bant yn ystod yr haf, yn lle cael cyfaill i ddod i ddwrhau. Mae’r coriander, fel yr wyf yn gwybod o brofiad, yn ffurfio hadau’n glou iawn os bydd yn mynd yn sych, a’r ddau arall yn cario cymaint o ddŵr yn eu dail fel bydden nhw’n cwympo mewn tywydd sych.

Diolch byth bod digon o berlysiau gwydn fel rhosmari, oregano, saets a theim nad oes dim ots gyda nhw am wythnos – neu fis – o sychder.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: