Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 30, 2011

Ffarwel

Eglwys y pentref yn llawn eto heddiw ar gyfer angladd cymydog. (Nid eglwys y plwyf:  mae honno mewn pentref arall, ychydig yn fwy, ac mae gan bob pentref bychan ei eglwys neu gapel ei hun, heb offeiriad.)

Bydd cynhebrwng arall yfory, y pedwerydd eleni mewn cymuned o 200 o bobol. Siglo pen mawr ymysg y galarwyr ond cytuno wedyn ein bod yn mynd drwy sbel wael. Mae’n ŵyl gyhoeddus yma oherwydd Calan Mai ond dyw hi ddim yn teimlo felly; glaw mawr yn cadw pobol yn eu tai onibai bod rhaid.

Ond wrth imi gerdded i lawr llwybr y clogwyni’r bore ma, cyn iddi ddechrau bwrw, roeddwn yn meddwl am yr ymadawedig Toni yn grwtyn bach. Fe esboniodd inni gant o weithiau fel y byddai’n bugeilio gwartheg ei fam ar dir cymun y clogwyni. Roedd ganddi 2 neu 3 buwch ond dim porfa iddyn nhw.

Rowddwn yn gwrando ar glychau’r gwartheg yn y caeau pan glywais gloch yr eglwys yn atgoffa pobl bod awr i fynd cyn yr offeren. Ac yna cloch o rywle arall ar hyd yr arfordir, cloch a rocedi, yn cyhoeddi fiesta yn y pentref hwnnw.

Roedd y fuwch hon, ar y llaw arall, wedi llwyddo i droi’i choler fel bod y gloch, yn fud, ar ei mwng. Efallai taw dewis bwyta mewn tawelwch yr oedd hi.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: