Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 2, 2011

O’r Ardd, ddechrau Mai

Mae tymor y plannu yn mynd yn ei flaen. Mae’r safle lle roedd y ffa llydan cyntaf yn awr yn gartref i ddwsin o blanhigion aubergines (dim awgrym am air Cymraeg eto!). Bu’n rhaid inni brynu rheina achos ychydig iawn o’r hadau eginodd eleni, er gwaetha’r driniaeth foethus ar lawr gwresog y gegin. Ond nid dyma diwedd y ffa: heddiw pigais i 3.5 kilo o ffa llydan,  o’r ail res a hawyd ym mis Chwefror, mae cymaint eto i ddod a thrydydd rhes yn llawn blodau.

Mae’r polion mawr yn cael eu codi i ddal y ffa mawr gwyn a’r borlottis. Cafodd y rhain eu hau yn y  tŷ gwydr 3 wythnos yn ôl, ond mae wedi bod mor dwym y maen nhw’n barod, os nad braidd yn rhy fawr, i blannu mâs. Plannwyd y taragon ddoe yn y tir agored, ond mae gweddill y perlysiau’n dal yn y tŷ gwydr.

Mae angen hau letys a choriander eto, er mwyn sicrhau y bydd y dail gyda ni drwy’r haf, a rhes arall o bŷs hefyd. Ond ble yw’r cwestiwn? Mae’r argyfwng ‘lle’ wedi cyrraedd yn gynnar eleni. Bydd y garlleg yn cael ei godi ym mis Mehefin, felly bydd tipyn yn dod yn rhydd bryd hynny: does dim un llecyn yn cael gorffwys tan yr hydref.

(Na ninnau chwaith.)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: