Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 3, 2011

Cymryd beth sydd Angen

Rwyf i wedi sôn o’r blaen am hanes amaethyddol y pentref yma: bod teuluoedd yn ennill eu bywiolaeth o’r tir oedd gyda nhw, naill ai’n perthyn i’r tylwyth neu’n gymun gan y pentref. Doedden nhw ddim yn meddwl yn nhermau arian, a dim ond yn gwerthu anifail neu lysiau pan fyddai rhaid cael pres i dalu am rhywbeth na fedren nhw mo’i dyfu na’i wneud.

Heddiw ar y ffordd i’r môr weles i ddau beth oedd yn awgrymu bod y ffordd yna o feddwl yn dal i fod.

Rhywun wedi bod wrthi â’r pladur: ond dim ond yn lladd faint o wair oedd ei angen arno ar y pryd. Mae’r cae wedi bod fel hyn am ddau ddiwrnod yn awr felly nid wedi mynd i gael ei ginio yr oedd e.

Enghraifft arall: torri un goeden (ewcaliptws yw hon). Fel arfer beth sy’n digwydd yw bod peiriannau mawr yn cyrraedd ac yn gwacáu allt gyfan, gan adael brigau a mwd ar hyd yr heol. Ond fan hyn, mae’r perchennog yn amlwg wedi bod yn meddwl am gynnau tân ar ei aelwyd pan ddaw’r gaeaf, ac yn gweld bod eisiau ychwanegu at y stôr.

Fel trin yr ardd yn hytrach na busnes amaethyddol.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: