Mae’r haf wedi cyrraedd yn swyddogol yn fy myd bach i. Heddiw am y tro cyntaf eleni bûm yn ymdrochi yn y môr – ie, nofio a chwbl.
Roeddwn i wedi edrych ymlaen at heddiw am fod yr elfennau’n addo’n dda: y penllanw am 5 o’r gloch y prynhawn, fel bod y dŵr wedi bod yn symud yn ôl ac ymlaen yn yr iselderau ers oriau, y tywydd yn gynnes ac yn heulog, a’r môr ei hun yn dawel.
Wrth rowndio’r cornel diwethaf fe glywais i ddafad yn brefu: y ddafad wyliadwrus wedi codi’i phen pan glywodd sŵn traed. Pob un yn mynd yn ôl at y gwaith o bori yn ddisymwth. Roedd cwpwl o geir yno, ond neb ar y traeth.
I lawr y llwybr ac i fewn i’r dŵr. Oer, ôr, wêr. Dim byd amdani ond cael yr ysgwyddau i fewn yn glou. Popeth yn well wedyn, a bues i’n nofio – wel, am ryw 5 munud, nes imi benderfynu taw digon oedd digon. Ond am brofiad. Y bae i gyd i fi fy hun, a’r haul yn dal i ddisgleirio.
Nôl i’r gwaith wedyn: pentwr o wair eisiau’i racanu. Ond roedd fy meddwl yn dal yn dawnsio yn y dŵr. (Dim lluniau: wel, byddwn i wedi teimlo braidd yn sili yn tynnu hananllun.)
Gadael Ymateb