Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 6, 2011

Difrodi’r Afon

Afon fach fer yw’r Guadamia; dim ond 7km o’r dechrau i’r diwedd. Dyma fel dylai hi edrych:

Ond heddiw fe aeth perchennog caffi ar y stâd ddiwydiannol at y cyfryngau i gwyno am yr holl sothach sydd wedi cael ei dowlu i’r afon, neu ei adael ar ei glannau, yn agos i’r ffynnon. Digwyddodd hyn i gyd, meddai fe, pan oedd y gweithwyr wrthi’n paratoi rhan newydd y safle. Ac fe ddigwyddodd er gwaetha’r ffaith taw yn y stâd ddiwydiannol ei hun y mae holl wastraff yr ardal yn cael ei drin! Bron ei fod yn fwy o drafferth i’r bobol yma fynd â’r stwff i’r afon nag i’r safle iawn. (Ond mae’n debyg y bydden nhw wedi gorfod talu am gael trin sbwriel gwaith: efallai mai dyna’r rheswm.)

Yn waeth fyth, mae perchennog y caffi’n dweud bod hylif yn llifo’n ddamweiniol o’r gwaith trin carthion sy’n derbyn gwastraff ffatrioedd yr ystâd, a bod hwnnw hefyd yn dibennu yn yr afon. Pwy a ŵyr pa gemegau sydd yn yr hylif?

Saith kilometr i ffwrdd o’r traeth. Bydda’i’n meddwl ddwywaith cyn mynd i nofio yno ar ôl glaw trwm. Ond mae’r cwynwr wedi dewis ei funud: mae’r ymgyrch etholiadol yn cyrraedd ei anterth. Siŵr y bydd rhywrai o gylch yr ymgeiswyr yn addo gwneud rhywbeth.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: