Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 7, 2011

Diwedd Tymor

Yn awr, chwaraeon.

Tra bod Sbaen i gyd yn galaru ar ôl Seve Ballesteros, mae tîm pêldroed gorau Asturias, Sporting de Gijón, yn chwarae gartref yn erbyn Deportivo a Coruña, yn y gobaith y bydd yn ennill ac felly’n sicrhau y bydd yn chwarae yn adran gyntaf La Liga y flwyddyn nesaf. Mae gan rai o ddilynwyr Deportivo enw drwg am ymladd ac yn ôl y sôn mae rhai o’r 3000 a ddaeth y 200km ar hyd yr arfordir eisoes wedi cael eu harestio.

Dim ond gobeithio y bydd y gêm ei hun gystal â honno neithiwr rhwng y Scarlets a’r Gleision (fe lwyddom ni ei gweld hi!). Ond wrth gwrs mae gwobr yna i’w hennill i Sporting o hyd, fel nad oedd hi ddim yn y pendraw i’r Scarlets. Y penwythnos yma hefyd y byddwn yn cael gwybod o’r diwedd ai Barcelona fydd y pencampwyr. Mae’r bobol sy’n deall y rhifau’n dweud wrthyf ei bod yn fathemategol bosib i Real Madrid gipio’r teitl. Ond does neb wir yn meddwl y bydd hynny’n digwydd. Mae Real Madrid yn chwarae Sevilla heno, ac os byddan nhw’n ennill a Barcelona’n colli yfory bydd y peth yn dal yn agored.

Ar ôl diwrnod yn yr ardd awn i eistedd i lawr yn awr i weld y gêm.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: