Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 9, 2011

Pysgotwyr Plastig

Nid yn aml y mae cynnig yn dod o un o gomisiynwyr Brwsel sydd yn cael ei dderbyn gyda brwdfrydedd gan gynrychiolwyr pob rhan o’r maes dan sylw. Neu’r môr dan sylw, ddylwn i ddweud yn yr achos yma, achos sôn  yr ydwyf am gynllun Maria Damanaki i dalu pysgotwyr i ddala plastig.

Gyda’r holl gyfyngu sydd ar beth y gellir ei ddal, ac o ba faint, ac ym mha dymor, er mwyn diogelu pysgod Môr y Canoldir a’r Cantábrico, mae pysgotwyr bach, h.y. y rhai sy’n pysgota’n lleol ac yn gwerthu’n lleol, un ar ôl y llall yn rhoi’r ffidil yn y to. Eleni ar arfordir y Cantabrico mae na hyd yn oed gyfyngu ar fecryll, heb sôn am y brwyniad.

porthladd Ribadesella ffoto:cathasturias

Mae pethau’n waeth fyth ym Môr y Canoldir oherwydd ei fod wedi ei gau i fewn, a’r holl sothach yn nofio mewn cylchoedd ar ei wyneb. Ond yn awr gan fod y pysgotwyr yn croesawu’r cynllun, yr ecolegwyr wrth eu bodd, a’r diwydiant ail-gylchu’n gweld cyfleoedd newydd yn agor, efallai y bydd enw’r fenyw o Wlad Groeg yn dod yn adnabyddus y tu hwnt i goridorau Brwsel.

Mae rhwyun hyd yn oed wedi datblygu rhwyd arbennig, o blastig, fydd yn dala’r gwastraff heb ddal yr un pysgodyn byw. Bydd hon yn cael ei harddangos ger y Côte d’Azur, yn Ffrainc, yn ddiweddarach y mis yma.

Advertisements

Responses

  1. wow, syniad mor syml, ond cynllun efo oblygiadau pellgyrhaeddol! Edrych ymlaen i ddysgu mwy amdano.

    • Ie, ac wrth gwrs y gobaith yw bydd llai o blastig hefyd yn golygu mwy o bysgod. Ar ein hennill dair gwaith felly.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: