Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 10, 2011

Pleidiau’r Basgwyr

Mae’n edrych yn debyg y bydd Bildu, clymblaid newydd y cenedlaetholwyr Basg, yn cael sefyll yn yr etholiadau ymhen pythefnos. Mae llys cyfansoddiadol Sbaen wedi penderfynu nad oes prawf taw cysgod yw Bildu y bydd ETA a Batasuna, ill dau wedi eu gwahardd, yn cuddio yn tu ôl iddo. Yr oedd yna amheuaeth o hynny, ym marn y llys, ond doedd yr amheuaeth ddim yn ddigon i wahardd Bildu.

Ond mae gan y gwrthwynebwyr ddeuddydd arall i gyflwyno cwynion newydd: rhaid i bopeth gael ei benderfynu erbyn y 12fed o Fai.

Ac ar yr un pryd, yn ôl El País mae’r PNV, y Blaid Genedlaethol,  yn agosáu at lywodraeth Sosialaidd Zapatero, gan ddewis peidio â gofyn cwestiwn ynglŷn â Bildu yn y Senedd yfory.

Rhaid inni fynd bant i Uvieu/Oviedo heddiw, felly dim amser i ddilyn y trywydd diddorol yma. Cawn weld beth fydd yn digwydd yfory.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: