Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 11, 2011

Bildu a’r Basgwyr, Eto

Roeddwn i’n amau y byddwn yn dychwelyd at stori’r etholiadau yn Euskadi, Gwlad y Basg, ac felly mae. Ddoe fe ryddhawyd un o garcharorion ETA ar ôl 25 mlynedd. Beth wnaeth e ond dala lan poster yn cefnogi Bildu, clymblaid newydd y chwith yn nhermau gwleidyddiaeth y cenedlaetholwyr, ond oedd hefyd yn dwyn y llythrennau ETA.

Rhuthrodd y blaid geidwadol Sbeinig, y PP, i ddweud y bydden nhw’n herio rhestrau ymgeiswyr Bildu, sydd dim ond yr wythnos yma wedi derbyn cefnogaeth Llys Cyfansoddiadol Sbaen i’w hawl i sefyll yr etholiadau. Dywed y PSOE (y Sosialwyr sy’n llywodraethu yn Sbaen) ar y llaw arall bod yn rhaid parchu penderfyniad y llys – er ei fod hefyd yn addo parhau â’r ymgyrch yn erbyn ETA.

Unwaith eto, fe welir gwahaniaeth rhwng y ffordd y mae gwleidyddion Madrid yn trin ETA/Gwlad y Basg, a’r ffordd y bu’n rhaid i wleidyddion Llundain yn y pendraw delio â gogledd Iwerddon. Y tŷb cyffredin yw bod cefnogaeth un etarra i Bildu yn profi nad yw Bildu’n ddim ond wyneb newydd ar ETA. Does neb y tu fâs i’r mudiad ei hun yn awgrymu y gallai rhywun fod wedi penderfynu gadael y bomiau a mynd at y blwch pleidleisio, llai fyth y byddai hynny ynddo’i hun yn rhwybeth i’w groesawu.

A nes bod gwleidyddion Sbaen nid yn unig yn deall hynny ond yn barod i’w ddatgan ar goedd, mae’n anodd gweld sut y gall pethau wella.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: