Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 12, 2011

Daeargryn Lorca

Amhosib osgoi’r lluniau heddiw: tŵr yr eglwys yn dymchwel yng nghanol darn i gamera gan ohebydd lleol, y di-gartref mewn carthenni coch yn aros i gael bwyd, y galar. Pawb wrth gwrs eisiau gwybod mwy am terremoto Lorca, ac am ddaeargrynfeydd yn gyffredinol: yng nghefn y meddwl – allai fe ddigwydd fan hyn?

Reit, wedi bod yn pysgota ar y we a dod â llond basged o ffeithiau i’r wyneb. Y daeargryn diweddar sy’n edrych (imi) yn debyg i un Lorca, er yn llawer iawn gwaeth, yw un Christchurch yn Seland Newydd ym mis Chwefror eleni. Roedd hwnnw’n mesur 6.3, deg gwaith yn fwy nag un Lorca, ond mae amgylchiadau’r ddau yn dangos elfennau tebyg.

Yn gyntaf, mae’r ddwy ardal yn dioddef daeargrynfeydd yn aml; maen nhw ar ben nifer o ffawtiau daearegol. Mae hynny’n golygu bod adeiladau’n cael difrod ac efallai neb yn sylwi ar y pryd: pan ddaw’r un mawr, maen nhw’n cwympo’n rhwydd. Roedd un mawr wedi bod yn ardal Christchurch 6 mis ynghynt, ac un gweddol yn Lorca flwyddyn ddiwethaf hefyd. Mae’r disgrifiad geiriol o radd 5 Richter yn sôn am ‘goed yn cwympo, difrod i ambell fur’, ond yn amlwg yn Lorca (5.5) roedd hi lot waeth na hynny.

Yn ail, roedd y ddau ddaeargryn yn agos i wyneb y ddaear – 10km i lawr yn Lorca, 7km yn Christchurch, ac yn agos i ganol tref neu ddinas. Mwy o bobol, mwy o niwed, mwy o ddifrod.

Beth bynnag am hynny, atgyweirio ac ail-adeiladu trefi a bywydau fydd nôd pobl y ddau le. Fe gafodd Lorca ei dinistrio ddwywaith o’r blaen, ym mis Awst 1674 ac ym mis Rhagfyr 1818. Mae pobl yn barod i fyw gyda gradd o berygl yn hytrach na symud i rywle newydd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: