Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 13, 2011

Gwella’r Guadamia

Newyddion da o lan yr afon. Fel yr awgrymais i, mae berw’r ymgyrch etholiadol wedi sicrhau bod y gwastraff oedd wedi ei adael ar lannau afon Guadamia yn ardal yr ystâd ddiwydiannol wedi ei glirio’n barod. Ac maen nhw’n dweud bod y dasg o atgyweirio’r gwaith trin carthion yno wdi dechrau hefyd, er nad yw’n bosib mynd i fewn i weld hynny.

Dyna help i’r afonig lle mae newydd adael diogelwch twneli’r mynydd; ac yn awr mae ‘na addewid (yr hen etholiad yna eto) o rywbeth da yn y man lle mae’n diflannu i’r môr.

Puente Arenas, pont y tywod, yw enw’r lle yma, ac yn awr, fe fydd yna bont! Man croesi yn unig yw hi yn awr, ac wedi bod erioed er gwaetha’r enw. Dyw hi ddim hyd yn oed yn hawdd croesi heb gael traed gwlyb. Ond yn awr mae llwybr yr arfordir wedi cyrraedd hyd yma, a’r peth nesaf fydd pompren i gario’r cerddwyr ymlaen i ran nesa’r daith.

Maen nhw hefyd yn sôn am greu llwybr ‘propor’ i lawr i’r traeth ar ein hochr ni: ond bydd hynny’n dod â ni nôl at achos y Guadamia, a’r barnwr a’i deulu o Madrid sydd wedi codi mur o gerrig, yn anghyfreithlon ym marn y pentref, a blocio’r hen lwybr. Ac mae’r achos hwnnw yn parhau ar ddesg rhywun mewn llys yn rhywle.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: