Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 14, 2011

Rysait: Cwscws Gemog

Wel, nid rysait cyfan, ond ffordd i wella un rwy’n siŵr y bydd llawer wedi ei baratoi droeon. Pan fydd y tagine neu ba bynnag plât arall sy’n ganolbwynt y pryd yn barod, daw amser dechrau paratoi’r cwscws.

Cynhwysion (i 4)

1 wynwnsen fechan neu bâr o shibwns

2-3 ewin garlleg

250g cwscws

pren sinamon

100g cnau pîn

100g aeron goji

llond llwy ford o dail goriander, wedi’u torri’n fân

Gyda’r ffrimpan yn lled-dwym, ffrio’r wynwnsen a’r garlleg yn dyner. Ychwanegu’r sinamon, a throi. Dodi’r cwscws mewn powlen ac ychwanegu tua’r un faint, neu ychydig yn fwy, o ddŵr berw.  Gorchuddio’r bowlen gyda lliain. Yn ôl at y ffrimpan: ychwanegu’r cnau pîn a’u ffrio am ryw 5 munud, wedyn yr aeron. Erbyn hyn bydd y cwscws wedi amsugno’r dŵr: paid â becso os bydd yn ymddangos yn orhylifol, dim ond ei arllwys i fewn i’r cymysgedd yn y ffrimpan a throi’r cwbl yn drylwyr.  Dail coriander dros y cwbl a ‘na fe. Mae’n edrych yn hyfryd achos y lliwiau: y dail glas, yr aeron coch a’r cnau melyn. Ac mae’r ffaith fod yr aeron goji yr un maint a siap â’r cnau pîn yn creu’r argraff o emau bychain ar y plât.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: