Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 15, 2011

O Ardd y Perlysiau: Mai

Wedi blino’n arw heno ar ôl taith trên hir, ar ein ffordd yn ôl o weld ffrindiau. Golwg bach ar adran y perlysiau, sy’n dod ymlaen yn dda eleni.

perlysiau ffoto:cathasturias

5 mlynedd yn ôl roedd y llecyn yma’n anialwch o chwyn a gwastraff ar ôl yr adeiladwyr. Bryd hynny aeth y llwyn (wel, y toriad) rhosmari a’r saets i fewn, a nawr maen nhw bron fel gwrych yn cysgodi’r planhigion llai rhag gwyntoedd oer y gogledd-ddwyrain. Rhaid eu tocio bob blwyddyn ond maen nhw’n well o gael hynny. Aeth y cennin sifis i’r pridd yn fuan wedi hynny, rhan o’r planhigyn oedd gyda Mam ac sydd wedi cael ei rannu a’i gario o gwmpas i bob man lle rwyf i wedi byw ers hynny. Dyw’r oregano ddim i’w weld yn y llun yma achos roeddwn i newydd ei dorri’n ôl er mwyn sychu peth ohono, ond mae ei gefnder, mintys y graig (origanum maiorana, marjoram) wedi tyfu’n dda o doriad y llynedd. Teim yw’r planhigyn yn y cornel gwaelod, eto wedi ei dorri’n ôl yn ddiweddar.

Mae’r perlysiau blynyddol, persli, y brenhinllys, coriander a gorthyfail, yn dal i fod yn y tŷ gwydr (yn y pridd, nid mewn potiau). Ac yn wir, maen nhw’n gwneud cystal yno efallai taw fanna byddan nhw. Does dim byd arall yn aros i gymryd eu lle a dyw hi ddim llawer pellach o’r gegin na’r gwely bach caregog yn y llun.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: