Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 16, 2011

Golwg ar y Compost

Hen bryd inni ddechrau ar domen gompost newydd. Yr amser hyn o’r flwyddyn, hawdd adeiladu tomen o dros fetr o uchder a lled wrth ladd gwair a chwynnu. Ac mae hynny’n faint sylweddol ac yn un da ar gyfer y gwresogi a’r pydriad.

Fel sy’n amlwg o’r llun, gwair sydd drosti fel carthen i gadw popeth yn dwym. Ond mae’n bwysig peidio â dodi gormod o wair yn un swmp neu fe fydd yn pydru mewn ffordd annymunol iawn. O dan y gorchudd mae hen blanhigion ffa, chwyn mawr, crwyn oren yn eu cannoedd a phob math o wastraff o’r gegin (gwastraff llysiau, h.y.)

Dau beth sy’n helpu’r domen i gyrraedd y tymheredd iawn ac i bydru’n felys: yn gyntaf, torri’r gwastraff yn fân. Mor fân ag y mae dy amynedd yn caniatau, yn enwedig pethau fel crwyn oren fydd fel arall yn mynd yn galed ac yn sych.  Yn ail, cael y cytbwysedd iawn rhwng y pethau ‘glas’ a’r ‘gwinau’ : mae eisiau 25-30 rhan o stwff gwinau fel blawd llif, dail, gwastraff ffrwythau, papur newydd (rhaid torri’r rhain yn fân), hyd yn oed carbord, i bob un rhan o bethau glas (gwair newydd ei dorri, gwymon, gwastraff o’r gegin.) Hawdd iawn cael gormod o wair!

Carbon sydd yn y gwinau, nitrogen yn y glas. Ac o gael y gymhareb yn iawn, fe fydd y domen yn gwresogi’n gynt ac yn cynhyrchu compost tywyll melys.

Bydd y domen newydd yn cael ei sefydlu fan hyn, unwaith y bydd olion yr hen un wedi eu rhidyllu i gael gwared darnau o bren ac ati. Mae’r stwff yn dda at hau, at drawsblannu egin-blanhigion neu mewn potiau tymor-hir. Ac mae am ddim.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: