Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 17, 2011

Etholiad Asturias

Wel dyma ni yn yr wythnos olaf. Mae wedi bod yn ymgyrch etholiadol rhyfedd yma yn Asturias. Y gyfundrefn fan hyn yw pleidleisio dros restr gyfan. Ac eleni mae ‘na 17 ohonyn nhw! Mae rhywun wedi hen arfer â’r chwith yn ymrwygo’n grwpiau bychain, ac yna y maen nhw: dau fath o gomiwynyddion, plaid cenedlaethol y chwith, y gleision, gleision y chwith, ac ati. Ond ar yr adain dde mae pethau’n mynd ‘run ffordd.

Un o’r pleidiau newydd yw Foro Asturias, o dan arweiniad y cyn-weinidog PP (ceidwadol) Cascos, sy’n gobeithio ennill pleidleisiau o’r chwith yn ogystal â’r dde, ond mae llawer yn ei gasau. Nid gorddweud yw hynny.  Wedyn mae ‘na enwau fel ‘Democratiaeth yn Awr’, a hyd yn oed ‘Syniadau’: digon anodd anghytuno â’r cyntaf na gwrthod yr ail, os o edrych i fewn fe fyddai rhywun yn gweld taw gwleidyddion o’r dde, yn aml rhai sydd wedi gadael y PP, y prif blaid geidwadol, sydd yn eu llywio.

Petai Foro Asturias yn gwneud yn dda, fe allai ffurfio clymblaid gyda’r PP fyddai’n disodli’r PSOE: digwyddiad hanesyddol. Ond yn gyntaf fe fyddai’n rhaid delio â’r drwg-deimlad personol a’r teimlad o fradychu sydd rhwng arweinwyr y ddwy blaid.

y farchnad etholiadol ffoto:cathasturias

Ddydd Sul y mae’r bleidlais: ni allaf ddarogan y canlyniad.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: