Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 19, 2011

Plaid yn erbyn Miri

Dim ond mater o amser….mae dyfodol y Ras Ceufadau, y Piraguas, wedi dod yn bwnc llosg yn etholiadau Ribadesella ar ôl i un o’r pleidiau (grwpiau, gwell dweud hynny) ddweud eu bod nhw am ddychwelyd i’r hen ffordd o wneud pethau. Hynny yw, pobl o’r ardal yn gwisgo dillad traddodiadol, ambell i lynciad bach o seidr i’r gŵr, a phopeth yn ddiogel neis i’r plant.

Dyma’r broblem: mae’r ras yn dechrau yn Arriondas, ac mae’r dref honno wedi dyfeisio modd i fyw gyda’r miloedd ar filoedd sy’n dod i hala’r penwythnos. Gŵyl roc nos Iau, a nos Wener, mewn cae mawr ar lan afon Sella. Ras yn dechrau am hanner dydd y Sadwrn, pawb yn diflannu. Iawn.

Ond. Mae’r rhan fwyaf yn dod i Ribadesella, achos bod ganddi enw fel tref gwyliau, ar lan y môr. Maen nhw’n codi’u pebyll lle gallan nhw (er bod y cyngor yn ddiweddar wedi darparu meysydd) ac ar ôl bod yn yfed o fore gwyn tan nos yn tueddol o ddefnyddio’r strydoedd fel tai bach. Nid bod hynny’n newydd chwaith. Mae llawer o Sbaenwyr (gwrywod) yn gwneud yr un peth rownd y flwyddyn.

Mae’r ras yn cael ei chynnal reit yng nghanol pythefnos prysuraf tymor yr haf, pan fydd y dref yn llawn o deuluoedd o Madrid neu Wlad y Basg, ac efallai nad yw’r ddwy garfan yn cydfyw’n hapus iawn.

Ond mae dal yn bosib mwynhau diwrnod yn gwylio’r ras, ac yn yfed seidr – mae’r cyngor hyd yn oed yn darparu tai bach yn awr. Os am newid y Piraguas rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy’n symud ymlaen, yn lle ceisio mynd yn ôl (i rywbeth nad oedd mewn gwirionedd yn bodoli: mae wastad wedi bod yn fiesta i fyfyrwyr). Neu a fydd y Guardia Civil yn stopio pobl ar eu ffordd i fewn a phrofi’u gwybodaeth nhw o’r byd ceufadau cyn eu gadael i fewn?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: