Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 22, 2011

Etholiad a Mwy

Diwrnod etholiad unigryw yw hi. Tra bod pobl Sbaen yn mynd i bleidleisio i’w cynghorwyr a’u seneddwyr cymunedol, mae miloedd ohonyn nhw ar y stryd, yn gofyn am newidiadau sylfaenol yn y gyfundrefn sydd ohoni. Fe gymrodd pobl y gwersyll mwyaf, Puerta del Sol yn Madrid, benderfyniad y bore ‘ma i gadw mlaen am o leiaf wythnos arall. Ac mae mwy a mwy o drefi yn awr yn cynnal gwrthdystiadau tebyg – yn eu plith Mieres, Langreo, a Pola de Siero, tair tref sydd â hanes diwydiannol a glofaol.

ffoto:cathasturias

Ond yr hyn sy’n ddiddorol yw maint y trawsnewid sy’n cael ei drafod. Trafod yw popeth yn y gwersylloedd: mae pobl fel petai’n siarad am bethau o’r cychwyn cyntaf, yn lle dweud ‘rhaid dechrau fan hyn lle’r ydym ni nawr.’ Anodd i rywun sydd wedi byw ym myd gwleidyddiaeth y pleidiau ac sydd felly’n dueddol o rannu’r boblogaeth yn dylwythau. All hi wir fod yn bosib gyrraedd penderfyniad drwy bleidlais y bobl, yn electroneg, ar ôl dadl electroneg gan na fydd pawb yn gallu mynd i’r unlle i gymryd rhan, ac i’r peth gael ei wireddu? Pwy sy’n mynd i’w wireddu, pa adeiladwaith fydd ei angen? Beth fydd yn digwydd pan ddaw rhywun neu rywrai sydd am fod yn geffylau blaen, yn ‘fwy cyfartal nag eraill’ chwedl Orwell?

Ac wedyn mae’r holl gwestiwn o sut mae trosi o’r hen gyfundrefn i’r newydd, neu’n llai uchelgeisiol o sut mae’r ddwy garfan yn cyfathrebu. Efallai byddwn yn gwybod ychydig yn fwy pan ddaw’r canlyniadau.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: