Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 23, 2011

Drannoeth y Bleidlais

Wel fe ddywedais i wythnos yn ôl y gallai canlyniad etholiad cymunedol Asturias fod yn hanesyddol, ac felly y bu. Fe enillodd Foro Asturias, plaid newydd geidwadol y cyn-weinidog Francisco Alvarez Cascos, 16 sedd, y PSOE (sosialwyr) sydd wedi bod yn llywodraethu yma bron yn ddi-dor 15, y PP (ceidwadwyr canolog) 10 ac IU (chwith unedig – etifeddion y blaid gomiwnyddol, mewn cytundeb etholiadol â’r Blaid Werdd) 4. Mae hynny’n golygu y bydd gan bleidiau’r adain dde fwyafrif: ond a fyddan nhw’n llwyddo i gyd-weithio? Mae arweinydd y PP wedi dweud pethau fel ‘yr hyn sy’n bwysog yw’r rhanbarth, nid nyni’ ond does ‘na ddim cyhoeddiad wedi bod eto.

hysbyseb Foro Asturias

Mae’n sefyllfa rhyfedd i’r bobl yn ei chanol; dychmyga am funud bod Neil Kinnock yn dychwelyd cyn yr etholiadau nesaf i’r Cynulliad a cheisio ennill arweinyddiaeth Llafur. (Mae Cascos wedi ymddeol ers rai blynyddoedd). Ei fod yn cael ei wrthod, ac wedyn yn mynd bant a sefydlu plaid newydd, ac mewn ychydig fisoedd yn ennill mwy o seddi na neb arall. Fyddai’r peth yn anghredadwy. Ac mae plaid Cascos wedi gwneud yn eitha da yn y trefi hefyd: nhw fydd yn rheoli yn Ribadesella, lle gawn ni fenyw yn arweinydd am y tro cyntaf, ac mewn trefi eraill maen nhw wedi llwyddo i roi diwedd ar reolaeth gan y ddwy blaid fawr.

Sut mae hyn i gyd yn plethu gyda’r gwrthdystio sydd wedi bod yn ystod yr wythnos does gen i ddim clem. Fe fydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae’r llywodraethau cymunedol sydd wedi newid dwylo yn ymdrin â’r sefyllfa economaidd, yn enwedig y di-waith a’r ieuenctid. Yng ngweddill Sbaen, gyda llaw, fe wnaeth y PP yn dda, ac yn Catalunya fe enillodd y CiU (cenedlaetholwyr, de) dwlpyn o seddi mewn ardaloedd a fu’n gaerau i’r chwith. Yn Euskadi, Gwlad y Basg, fe enillodd Bildu (cenedlaethwyr, chwith)  gannoedd o seddi yn eu hetholiad cyntaf.

Gobeithio sôn am rywbeth arall yfory!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: