Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 24, 2011

Breuddwyd Ffôl?

Ym mhob ran o Sbaen – ac ym mhob cornel o’r we – mae ‘gwersyllwyr’ gwrthdystiadau’r wythnos ddiwethaf yn ceisio cadw’r breuddwyd i fynd, gyda’r nôd o’i wireddu. Gwyrdroi’r gyfundrefn wleidyddol bleidiol, sicrhau gwaith a chartref teilwng, cael bod yn rhan o’r broses (beth bynnag fydd honno).

Ond fe wnes i addo sgrifennu am rywbeth heblaw gwleidyddiaeth heddiw, ac mi wnaf. Oherwydd newydd glywed yr wyf i am ddyn ifanc o Ribadesella sydd wedi dilyn ei freuddwyd i ben draw’r byd, sydd wedi hala pedair blynedd yn barod yn ceisio’i wireddu.

Mae ein harwr lleol, 26 oed, yn byw mewn fan yn ne-ddwyrain Seland Newydd ac yn gweithio fel gweinydd mewn gwesty. Y cwbl mae e eisiau yw cael rhan yn y ffilm sy’n cael ei saethu yno gan Peter Jackson, ‘The Hobbit’. Mae’r cynhyrchiad wedi dioddef sawl oediad yn barod, ond mae ar y gweill, ac i fod mâs y flwyddyn nesaf.

Ychydig cyn y Pasg, roedd ein harwr yn meddwl ei fod ar fin ennill ei le: ar ôl sefyll am ddwy awr a hanner mewn ciw fe gafodd fynd i fewn i lle roedden nhw’n dewis actorion (neu ddarpar-actorion, achos extras yw’r rhain) i chwarae rhan rhai o’r tylwyth teg (‘elves’ yn y llyfr). Ond och, ac yn y blaen, roedd e’n rhy fyr! O 4cm. Chafodd e ddim fynd ymhellach na’r mynedfa. (Mae Asturianos fel y cyfryw yn bobl byr, ac mae’r tylwyth teg i fod yn dal ac yn denau.)

Beth nesaf? Y syniad yn awr yw gyrru’r fan o gwmpas stiwdios Peter Jackson, gyda phosteri yn esbonio ei hanes, a gobeithio y bydd y cyfarwyddwr yn trugarhau wrtho.

Ac onid dyna yw rhyddid? Y gallu (ym mhob ystyr) i ddilyn y breuddwyd, i hala flynyddoedd yn ceisio’i fyw e?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: