Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 25, 2011

Nodyn o’r Ardd – Coed Ffrwythau

Ddiwedd Mai yn agosáu a’r ffrwyth yn dechrau chwyddo i’w llawn faint. Un methiant cyfan: y bricyll. Does dim un ffrwyth ar yr un o’r ddwy goeden a dyw’r coed chwaith ddim yn edrych yn dda, er bod digon o ddail arnyn nhw. Efallai bod rhaid derbyn ei bod hi’n rhy llaith yma a dewis rhwybeth arall.

Ond mae’r afalau yno, ar y coed sy’n dwyn yn gynnar, yn ddibynadwy fel erioed. Bydd mefus a mafon gyda ni o fewn yr wythnos, a chwrens duon hefyd. Dwi’n dwlu ar y cyfnod hwn, a’i ddewis helaeth o ffrwyth i’w fwyta’n amrwd neu i’w goginio. Mae ffrwyth gyda ni rownd y flwyddyn, o’r orennau (Ionawr-Mawrth), rhiwbob (Ebrill) syfion (Mai) mefus/mafon etc (Mehefin-Gorffennaf), eirin a gellyg (Awst-Medi), mafon eto, a ffigys (Medi-Hydref), cwins ac afalau (Hydref-Tachwedd) a kakis (Rhagfyr). Lemwns bob dydd o’r flwyddyn. Ceirios heb eu cynnwys (maen nhw’n dod ym mis Mehefin) am eu bod yn tyfu mewn man anodd ei gyrraedd ac mae’r adar yn gwybod yn well na ni pryd maen nhw’n barod.

Blagur y kaki yw’r rhain, yn cwato’r tu fewn i gaer dail y goeden. Mewn gardd, mae wastad rhwybeth i’w edrych ymlaen ato. Yn enwedig pan ddylet ti fod yn gwneud rhywbeth am y chwyn neu’r morgrug yn y presennol.

Advertisements

Responses

  1. Dwi’n genfigennus. Ffrwythau trwy’r blwyddyn! Dwi’n trio cael ffrwythau trwy gymaint o’r fflwyddyn a bosib, ond mae rhaid defnyddio’r rhewgell. Mae ffrwythau fel riwbob ac yn enwedig cwrens a mafon yn rhewi yn dda. Gyda llaw, bu farw ein coeden bricyll ni hefyd, er ei fod y y ty gwydr. R’oedden ne wedi cael ffrwythau bendigedig – ond cafodd ryw haint a dyna fo.

  2. Y llynedd oedd y cyfle ola’ gafodd ein coeden fricyll ni i brofi ei bod yn talu am ei lle. Methu ddaru hi, felly er ei bod yn goeden hardd iawn yn yr hydref, clec gafodd hi er mwyn gwneud lle i goeden afalau croen mochyn. Mae yna hen edrych ymlaen i weld honno’n aeddfedu.
    O na fyddai’n haf o hyd…


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: