Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 26, 2011

Cam ymlaen, Cam yn ôl

Cam ymlaen, cam yn ôl yn hanes menywod ym maes gwleidyddiaeth Ribadesella (ein tref fach ni) a Sbaen. Yma mae croeso brwd i’r ferch gyntaf i arwain y cyngor, a hynny am ddau reswm. Fe enillodd achos ei bod hi ar frig rhestr (caeedig, fel y maen nhw yma ar hyn o bryd) Foro Asturias, plaid gyda dim ond rhyw 6 mis o fodolaeth. Doedd hi ddim yn weithgar mewn unrhwy blaid o flaen hynny, felly rwy’n siŵr bod y diffyg parch sydd gan lawer tuag at y ddwy blaid fawr wedi bod yn gymorth mawr. Dylid nodi, ysywaeth, (o rwy’n dwli ar y gair yna) nad yw pob un o gynghorwyr y Foro cweit mor ‘las’. Mae ei dirprwy hi, (ie, merch arall)  a nifer o’r lleill wedi dod yn syth o’r PP, y blaid geidwadol ganolog, ac mae ganddyn nhw ddigon o brofiad ym mherfeddion gwleidyddiaeth Asturias.

Y rheswm arall dros ei chroesawu yw ei bod hi, ddeunaw mis yn ôl, wedi ennill mewn tribiwnlys diwydiannol yn erbyn cyngor Ribadesella, pan oedd y PSOE (sosialwyr) mewn grym, ar ôl cael ei diswyddo mewn modd anghyfreithlon. Hi oedd swyddog twristiaeth y dref; edrych ymlaen at weld beth fydd ei chynlluniau hi yn y maes hwnnw.

Ond mae menyw alluog arall wedi cymryd cam tua nôl. Heddiw fe gyhoeddodd y weinidog amddiffyn, Carme Chacon, na fydd yn sefyll yn yr etholiad i ddewis olynydd i Zapatero fel arweinydd y PSOE. Dywed hi taw’r peth olaf y dylai’i phlaid wneud yn awr, yn sgîl colledion mawr, yw treulio amser yn siarad yn fewnol; yn lle hynny, meddai, rhaid dechrau ar y gwaith o ail-adeiladu cyn yr etholiadau nesaf ar gyfer llywodraeth Madrid, sydd i’w cynnal o fewn y flwyddyn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: