Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 28, 2011

Byw’n Well yn y Wlad

Ydy pobl sy’n byw yn y wlad yn iachach? Yr ateb yn ôl ymchwilwyr sydd wedi edrych ar Asturias fesul cyngor yw, ydyn, yn bendant. Mae corff newydd, Observatorio de Salud en Asturias (Gwylfa Iechyd Asturias) wedi cyhoeddi ffigyrau manwl am y pethau sy’n achosi salwch a marwolaeth, (llygredd, diffyg gwasanaeth iechyd da, ayyb) ac wedi rhestru’r cynghorau yn ôl y rheiny. Wedyn, fe gymeron nhw’r ffigyrau ar gyfer beth ddigwyddodd yn ardal pob cyngor, a gwneud rhestr arall.

Nid yn unig y mae’r ardaloedd gwledig yn gwneud yn well o ran sefyllfaoedd, gyda llai o salwch cronig, ac yn ddiddorol, llai o bobl tlawd iawn, ond o symud at y rhestr canlyniadau, maen nhw’n gwella ar eu lle yn y rhestr cyntaf. Mae rhai pethau sy’n anodd eu hesbonio: o’r dair dinas sydd yn Asturias, mae trigolion Gijón yn iachach na rhai Oviedo ac Avilés. I ddechrau roeddwn yn gweld effaith glan môr yn codi Gijón uwchben Oviedo, ond na. Porthladd yw Avilés hefyd, ond gyda llawer mwy o ddiwydiant trwm na Gijón. Mae’n debyg taw llygredd yw eu problem nhw.

pentref Sotres ffoto:cathasturias

Nid felly yn yr ardaloedd mynyddig fel Sotres yn y Picos de Europa, lle mae’r awyr ar ei glanaf. Mae pethau eraill yn haws eu deall: pobl y wlad yn gwneud mwy o weithgareddau corfforol, yn llai ‘eisteddog’ yn iaith yr adroddiad. Ac yn fwy cymdogol, ac yn dioddef lot llai o iselder ysbryd. Byddai’n ddiddorol iawn gwybod a ydy’r gwahaniaeth yma yn wir mewn gwledydd eraill.

Ond mae e hefyd yn f’atgoffa o’r hen ddywediad nad yw pobl y wlad ddim yn byw’n hirach, mae jyst yn teimlo felly!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: