Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 31, 2011

Ciwc marwol

Mae’r marwolaethau ar ôl achosion o wenwyn bwyd E. coli yn yr Almaen wedi parlysu marchnad allfor llysiau Sbaen. Un wlad ar ôl y llall yn hala loriau nôl yn llawn llysiau a ffrwythau, wedi’u gwrthod. (Ac yn aml roedd y loriau i fod i godi llwyth arall i ddychwelyd – hwnnw hefyd yn cael ei effeithio.)

Dywed awdurdodau Sbaen nad oes yr un prawf eto fod y drwg wedi mynd i fewn i’r ciwcymbers ar y fferm, nac yn Sbaen o gwbl. Yr unig achos o E. coli sydd wedi digwydd yma yw dyn yn San Sebastián oedd newydd ddychwelyd o’r Almaen. Gofyn y mae pobl fan hyn ai yno – wrth drafod y llysiau ar eu ffordd i’r siopau – yr aeth i bacteria i fewn. Ac mae’r ateb yn bwysig: mae de Sbaen yn arbennig yn dibynnu ar y farchnad dramor i gynnal y diwydiant enfawr o dyfu llysiau (yn enwedig salad a mefus) o dan bebyll plastig sy’n gorchuddio’r caeau.

Mae gweinidogion amaeth yr UE digwydd bod yn cwrdd yn Hwngari heddiw, ac mae’n siŵr y bydd gan Rosa Aguilar gwpwl o bethau caled i’w dweud wrth y gweinidog o’r Almaen.  Pethau fel: pryd gawn ni weld canlyniadau’r profion sydd wrth waith. Bydd hi hefyd yn gofyn i’r Comisiwn am gymorth i ffermwyr llysiau Sbaen, oherwydd y colledion maen nhw’n eu dioddef. Rhaid bod hi’n eitha siŵr nad yma y dechreuodd yr haint!

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: