Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 1, 2011

4 Bywyd (Adolygiad Ffilm)

Smo fi erioed wedi gweld ffilm fel Le Quattro Volte. Ffilm o’r Eidal, o dalaith Calabria, ffilm ddogfen, bron. Ond yn ffilm dynn iawn hefyd, wedi’i chyfarwyddo bob cam, bob ffrâm o’r ffordd gan Michelangelo Frammartino.

Dyw hi ddim yn adrodd stori, does na ddim arwyr: does na ddim is-deitlau, achos prin iawn yw’r siarad a sdim ots os yw’r gwyliwr yn ei ddeall ai peidio. Dyw’r camera braidd byth yn symud o ddechrau un dilyniant i’r nesaf. A does na ddim cerddoriaeth.

Ond mae’n mynegi mewn ffordd brydferth bywyd pentref diarffordd, lle mae rhai, fel yr hen fugail sy’n ganolog i hanner cyntaf y ffilm, yn glynu at hen ofergoelion. Geifr yr hen foi, a’i gi, yw’r cymeriadau eraill yn y dechrau, a geifr ysblennydd ydyn nhw, gyda chyrn troellog. Does dim byd yn cael ei esbonio, rhaid gwylio’n astud i ddeall y byd yma. Mae’r dyn a welir yn yn siot agoriadol fel petai yn diffodd mynydd tân bychan mewn difri yn gwneud golosg. Nes ymlaen bydd ef a’i gyfaill yn mynd o gwmpas y pentref yn eu hen lori bach yn ei werthu fe. A thua’r diwedd mae na dilyniant hi o godi mynydd golosg.

Ond i gyrraedd hwnnw rhaid gweld y goeden fawr yn cael ei thorri a chludo i’r pentref, a’i chodi yno eto fel canolbwynt dydd gŵyl y sant lleol – yn debyg iawn i fel mae pobl fan hyn yn nwyrain Asturias  yn gwneud. A chyn hynny mae myn bach colledig wedi marw yn yr eira wrth droed y goeden, a chyn hynny mae’r hen fugail wedi marw yn ei wely, a’r geifr wedi llwyddo i ddod i fewn i’w stafell.

Mae’r teitl Le Quattro Volte yn dod, mae’n debyg, o waith Pythagoras, oedd yn byw yn Calabria yn y 6ed ganrif. Dywedodd ef fod gan bob un 4 bywyd ynom ni, y dyn, yr anifail, y planhigyn a’r mwyn, a’n bod yn felly yn byw 4 bywyd ar y tro (neu un ar ôl y llall – roedd e hefyd yn credu y gallai’r enaid symud i gorff arall).

Fe ddwedais i uchod bod rhaid gwylio’r ffilm yn astud. Ond nid astud yw’r gair iawn: rhaid ei gwylio’n fyw, fel petaet ti yno, yn edrych dros y cwm i’r pentref neu yng nghanol y geifr neu’n cario’r goeden. Gwledd i’r llygaid yn gyntaf, ac yn awr, i’r ymennydd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: