Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 2, 2011

Wedi Cael Digon

Reit, rydym ni wedi cael digon ar y fricyllen – mae’n edrych yn farw, dim dail o gwbl, er bod peth ystwythder yn y canghennau o hyd. Bydd hi’n cael dod mâs a rhywbeth sy’n fwy addas i’r hinsawdd yn cymryd ei lle.  Mae’r llall yn dal â dail, felly Ann a Wilias byddwch chi’n clywed mwy am ei hanes!

Diwrnod fel ‘na mae wedi bod heddiw. Ar ôl dechrau araf yn tocio blodau marw’r saets cyn eu bod yn mynd yn hadlestri (mae 3 saets yn ddigon i bentref cyfan), fe es i ati i dynnu mâs y gwyddfid. Wedi colli amynedd yn llwyr gyda honno, mae wedi bod yno ers dros 6 mlynedd, yn anferth o blanhigyn, a dim un blodyn. Mae reit wrth y teras, hefyd achos y syniad oedd cael perarogl gyda’r nos.

Jasmin byddwn ni’n plannu yno – pan neu os bydd y toriadau ges i gan gyfaill yn cymryd.   Jasmin o Sisili yw e, yn arogli’n well na dim un dwi wedi glywed.

Ac wedyn, y philadelphus. Mae na ddau ohonyn nhw, yn y border wrth ochr y tŷ. Roedden nhw yno pan brynson’r lle, ac eto, dim blodau. Maen nhw wedi cael eu tocio’n llym , yn dyner, dim o gwbl, ar wahanol adegau o’r flwyddyn: sdim byd yn gweithio, a gan bod gyda ni coed oren go iawn  sdim eisiau rhai ‘mock’.

Dwi ddim yn gwybod beth i rhoi yn eu lle nhw: mae rhan fwyaf y border yn hortensias pincbiws, heblaw am un fuchsia a chwpl o rosod. Syniadau?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: