Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 4, 2011

Cinio Penblwydd 2011

I Ribadesella’r prynhawn yma i gael cinio i ddathlu penblwydd arall. Dim llawer o eiriau, felly, ond ychydig o luniau o’r dref.

traeth Santa Marina ffoto: cathasturias

Dyma brif draeth y dref, Santa Marina, ar yr ochr arall i’r afon o’r porthladd a’r hen dref. Codwyd y tai mawr crand tua diwedd y 19eg ganrif gan gyfoethocion o Madrid er mwyn dianc rhag gwres yr haf yng nghanol y penrhyn Iberaidd. Mae un neu ddau yn aros yn dai unigol, ond y gweddill yn fflatiau, gwestyau, hyd yn oed hostel ieuenctid.

Aelodau o fand pibgyrn y dref oedd yn digwydd bod yn ymarfer, nid yn unig yn y sgwâr ond yn gorymdeithio drwy’r strydoedd. Trueni nad oedd mwy o bobol yno i’w clywed nhw.

Ac yn olaf, enghraifft o waith artist lleol sy’n peintio ar furiau yn null trompe-l’oeil : mae sawl talcen tŷ wedi ei addurno fel hyn, yn ogystal â muriau plaen mewn tai bwyta sydd heb olygfa gwerth edrych arno.

A’r cinio? Hyfryd. Darn trwchus o faelgi wedi ei goginio ar y plancha, gyda risoto madarch. Awn ni nôl i dŷ bwyta Arbidel.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: