Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 5, 2011

O’r Ardd: Methiant Ffrwythol

Mae gen i syniad na fydd hi ddim yn flwyddyn dda iawn o ran y ffrwythau eleni. Mae’r tywydd newidiol eithafol wedi drysu’r coed a’r llwyni nes bon nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf.

Mae’r hen goeden eirin, oedd yn llawn blodau ganol y Mis Bach, heb unrhyw ffrwyth. Chawn ni ddim o’r eirin tew, piws, melys! Cwympo wnaeth y ffrwythau bychain i gyd pan oerodd hi ym mis Ebrill.

Mae’r eirin gwyrdd, y claudia, wedi cael rhyw haint – fel stribedyn brown caled o dan y croen. Ac mae’r adar wedi darganfod y cyrens duon:

Mae’r rhai yn y canol yn dod yn iawn, ond edrych ar y ddau sbrigyn tua’r dde uchaf. Fawr ddim ar ôl. Llynedd oedd cynhaeaf cyntaf y llwyni, a rhaid bod yr adar ddim wedi’u gweld neu am ryw reswm ddim eisiau’u bwyta nhw. Dyna pam wnaethom ni ddim roi rhwydi drostyn nhw. O wel, byddwn yn gwybod gwell flwyddyn nesaf. Mae rhywbeth (adar neu lygod) wedi cael hwyl ar y physalis hefyd, yn eu bwyta nhw cyn eu bod nhw wedi troi lliw: rhwyd arall yn eisiau.

O leiaf dydyn ni ddim yn dibynnu ar werthu ffrwythau – ond bydd gorfod eu prynu nhw ddim yn brofiad da chwaith. Mae methiant (rhannol) fel hyn yn gwneud imi barchu’r hen bobl yn fwy fyth. Bob blwyddyn mae rhywbeth yn methu a rhwybeth arall yn llwyddo, a ‘na gyd fedr rhywun ei wneud yw byw ar beth sydd gyda fe, gydag ambell i nodyn ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: