Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 6, 2011

Damwain Awyren

Roeddwn i wedi meddwl ysgrifennu cofnod am y tywydd (eto) heddiw gan fod yr haul wedi mynd i guddio, niwl a chymylau yn gorchuddio popeth yn uwch na ryw 500m a’r glaw yn ddi-baid. Ond rwyf i newydd glywed am ddamwain ofnadwy sydd efallai yn gysylltiedig â’r tywydd.

Roedd tair awyren ysgafn yn teithio gyda’i gilydd o Donostia/San Sebastián yng Ngwlad y Basg i Vilar da Luz yn Portiwgal, gan ddechrau drwy ddilyn yr arfordir. Grŵp o chwech o gyfeillion, dau ymhob awyren. Tua 2 o’r gloch y prynhawn, ar ôl bod yn yr awyr am awr a hanner, fe gysylltodd peilotiaid dwy o’r awyrennau â thŵr rheolaeth maes awyr Asturias. Ymhen ychydig funudau, roedd un wedi disgyn i’r llawr yn y maes awyr ei hun, wedi bwrw yn erbyn adeilad hyfforddi oedd ar y pryd yn wag. Cafwyd hyd i’r llall yn fuan wedyn ar lethrau’r bryn gerllaw. Roedd y pedwar teithiwr wedi marw.

Fe lwyddodd y drydedd awyren i lanio’n ddiogel – ym maes awyr Santander, sydd rhyw 200km yn nes i Wlad y Basg. Does neb wedi dweud eto a oedd y peiriant hwnnw wedi glanio cyn y ddamwain, neu am ryw reswm wedi troi’n ôl. Beth bynnag, mae’n debyg bod y ddau deithiwr wedi mynd ymlaen i gyfeiriad Asturias mewn car. Roedd yr awyrennau wedi eu cofrestru yng Ngwlad Pŵyl, ac o leiaf tri o’r dynion fu farw yn dod o’r wlad honno.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: